'Nol ammod y cyfammod rhad Erioed oedd rhwng y Mab a'r Tad; Gadawodd Iesu nef y nef, I'r ddaear hon gostynodd Ef; Fe drefnodd iechydwriaeth fawr, I'r gwaelaf ddyn sydd ar y llawr; Bydd canu am ei boen a'i gur, Dros byth ar fryniau Salem bur. Boed i efengyl Iesu mawr Orchuddio wyneb daear lawr; Ei hyfryd sain, a'i goleu clir, Fo'n amlwg yn yr anial dir; Fel byddo i'r cenhedloedd oll Ymgasglu 'nghyd, heb un ar goll - Doed pobloedd daear yn gytūn - I gyd addoli Mab y dyn!1: Caniadau Bethel (Cas. Evan Edwards) 1840 2: David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822 [Mesur: MHD 8888D] gwelir: Boed i efengyl Iesu mawr |
According to the terms of the gracious covenant That ever was between the Son and the Father; Jesus left the heaven of heaven, To this earth he condescended; Great salvation was planned, For the most base man on the earth below; There will be singing about his pain and his wound, Forever on the hills of pure Salem. Let the gospel of great Jesus be Covering the face of earth below; Its delightful sound, and it's clear light, Be evident in the desert land; That all the nations be Gathering together, with none lost - Let peoples of earth come in agreement - To worship together the Son of Man!tr. 2021 Richard B Gillion |
|